eventbocs yw’r lleoliad rhithwir, dwyieithog sy’n darparu ymgysylltiad ar y pryd, wyneb i wyneb o fewn cyfrwng digwyddiad syml, diogel.

Perffaith ar gyfer:

  • cynadleddau ar-lein
  • arddangosfeydd
  • rhwydweithio
  • cyfarfodydd arbennig
  • digwyddiadau hybrid

Nodweddion

dwyieithog

Trwy bwyso botwm gallwch hwyluso digwyddiadau dwyieithog gan roi’r opsiwn i’ch cynadleddwyr gyfranogi yn eu hiaith ddewisol.

cyfarwydd

Mae eventbocs yn cysylltu gyda chyfryngau sy’n gyfarwydd i chi a’ch cynadleddwyr yn cynnwys YouTube, Vimeo, Microsoft Teams, Webex a Zoom.

di-dor

Gall cynadleddwyr grwydro o ystafell i ystafell heb symud o’r swyddfa gysurus yn eu cartref neu hyd yn oed ar eu dyfeisiadau llaw.

diogel

Mae diogelwch a phreifatrwydd eich cynadleddwyr yn brif flaenoriaeth gan eventbocs. Gall eich digwyddiadau fod yn breifat ac wedi’u diogelu gan gyfrinair, neu’n gudd ac ar wahoddiad yn unig. Bydd eventbocs yn cydymffurfio â GDPR i sicrhau diogelwch data.

hyblyg

Chi fydd yn dewis beth I gynnwys yn eich ‘eventbocs’. Gallai gynnwys derbynfa i gyfarfod a chyfarch eich cynadleddwyr, prif ystafell gyfarfod, ystafelloedd ychwanegol, parthau arddangos a rhwydweithio a hyd yn oed desg gwybodaeth i gynorthwyo eich cynadleddwyr.

pwrpasol

Mae’n rhwydd integreiddio eventbocs gyda chynllun eich brand. Gallwch ddefnyddio lliwiau, asedau a goslef mynegiant eich brand eich hunan fel yr adnabyddir chi yn syth gan sicrhau bod eich cwsmeriaid yn teimlo’n hollol gartrefol.

parchu’r amgylchedd

Nid oes angen teithio sy’n fwy cyfleus i’r cynadleddwyr ac yn lleihau eu hôl troed carbon!

Manylion cyswllt

Ebost: info@eventbocs.wales

Ffôn: +44 (0) 844 736 6150